Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol: Tlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni

Dyddiad: 5 Rhagfyr 2022

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni

1.    Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi

 

Cadeirydd:

Mark Isherwood AS

 

Aelodau o’r Senedd:

Jane Dodds AS

Janet Finch-Saunders AS

John Griffiths AS

Mike Hedges AS  

Sioned Williams AS

Vikki Howells AS

 

Ysgrifenyddiaeth

 

Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru, National Energy Action

E-bost: ben.saltmarsh@nea.org.uk.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2.    Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

 

Cyfarfod 1

 

Dyddiad y cyfarfod:        8 Tachwedd 2021 (ar-lein, drwy gyfrwng Zoom)

Yn bresennol:                

 

Adam Scorer, NEA

Andrew Bettridge (ar ran John Griffiths AS), Senedd

Ben Saltmarsh, NEA Cymru

Bethan Edwards, Marie Curie

Brian Hart, NEA

Ceri Cryer, Age Cymru

Claire Durkin, Ymddiriedolwr NEA

Claire Pearce-Crawford, Cartrefi Melin

Crispin Jones, Arbed Am Byth

Dale Thomas (ar ran Lee Waters AS), Senedd

David Wallace, Cartrefi Melin

Elaine Robinson, Prifysgol Caerdydd

Eleri Williams, Cenedlaethau’r Dyfodol

Faye Patton, Gofal a Thrwsio

George Jones, Pobl Hŷn Cymru

Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Hugh Kocan, Sefydliad Bevan

Jack Wilkinson-Dix, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Jane Hutt AS, Llywodraeth Cymru

Joanna Seymour, Cymru Gynnes

Jonathan Cosson, Cymru Gynnes

Kirsty Rees (ar ran Mike Hedges AS), Senedd

Lee Phillips, y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mark Alexander, Llywodraeth Cymru

Mark Isherwood AS, Senedd

Matt Copeland, NEA

Michael Anderson, Ofgem

Mike Potter, NEA

Neville Rookes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Nigel Winnan, Wales and West Utilities

Richard Hauxwell-Baldwin, Sefydliad Elusennol MSC

Sam Worrall, Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Simon Lannon, Prifysgol Caerdydd

Simone Lowthe-Thomas, Asiantaeth Ynni Severn Wye

Sioned Williams AS, Senedd

Vikki Howells AS, Senedd

William Jones, Cyngor ar Bopeth Ceredigion

 

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

 

Ffocws:

 

Y cyfarfod hwn oedd cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol yn nhymor y Senedd hon.

Gyda phrisiau ynni yn cynyddu’n aruthrol, incwm yn gostwng, a llawer yn parhau i fyw mewn cartrefi oer sy'n gollwng ynni, roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i fyfyrio ar y gaeaf hollbwysig sydd o'n blaenau.

 

Mae cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn rhoi cyfle i aelodau o bob plaid gwrdd â rhanddeiliaid a rhannu syniadau ynghylch y camau y gellir eu cymryd i ddatrys tlodi tanwydd a sicrhau pontio cyfiawn. Gwnaeth Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ymuno â'r aelodau er mwyn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a chymryd cwestiynau gan y grŵp.

 

Cynhaliwyd etholiad er mwyn ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd. Cafodd Mark Isherwood AS ei ailethol yn ddiwrthwynebiad fel Cadeirydd y Grŵp. Cafodd Ben Saltmarsh ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Ysgrifennydd y Grŵp.

 

Rhoddodd Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru, National Energy Action, gyflwyniad ar y materion a ganlyn:

 

·         y lefelau o dlodi tanwydd a welwyd yng Nghymru cyn y pandemig

·         effeithiau dyfodiad yr argyfwng prisiau ynni

·         y galwadau am fwy o gymorth ariannol uniongyrchol a mesurau diogelu wedi’u targedu ar gyfer aelwydydd incwm isel y gaeaf hwn

 

Yn ystod y cyflwyniad gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

 

·         cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan gynnwys:

o   y datblygiadau diweddaraf o ran Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2035

o   yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer tlodi tanwydd yn nhymor y gwanwyn 2022

o   y sylwadau a wnaed yn ddiweddar i Lywodraeth y DU

o   y cynllun i lansio ymgynghoriad ar yr iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

 

 

Yn unol â’r gweithdrefnau, daeth y cyfarfod i ben gyda chadarnhad y byddai’r ffurflenni ar gyfer (ail)sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol yn ffurfiol yn cael eu cyflwyno i’r Senedd maes o law.

 

 

 

Cyfarfod 2

 

Dyddiad y cyfarfod:        14 Mawrth 2022 (ar-lein, drwy gyfrwng Zoom)

Yn bresennol:                 

 

Mark Isherwood AS (Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol), Adam Scorer (NEA), Hayden Banks (NEA), Brian Hart (NEA), Jane Hutt AS (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol), William Bell (Cyd Innovation), Kate Calladene (EON), Jonathan Cosson (Cymru Gynnes), Leonardo Costa (Ofgem), David Cowdrey (Sefydliad Elusennol MCS), Ceri Cryer (Age Cymru), Bethan Edwards (Marie Curie), Steffan Evans (Sefydliad Bevan), Heledd Fychan AS (Canol De Cymru), Mabon Gwynfor AS (Senedd), Frank Hemmes (Ofgem),  Sam Hughes (Cyngor ar Bopeth), Suan John (Plaid Cymru), William Jones (Cyngor ar Bopeth), George Jones (Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Matthew Kennedy (Sefydliad Siartredig Tai Cymru), Francesca Kirtley-Paine (Liquid Gas UK), Simon Lannon (Prifysgol Caerdydd), Simone Lowthe-Thomas (Asiantaeth Ynni Severn Wye), Kiera Marshall (Plaid Cymru), Christopher McDermott (Ofgem), Jason McLellan (Swyddfa Carolyn Thomas), Ken Moon (Senedd), Lia Murphy (Ofgem), Faye Patton (Gofal a Thrwsio Cymru), Lee Phillips (y Gwasanaeth Arian a Phensiynau), David Renwick (EON), Elaine Robinson, Joanna Seymour (Cymru Gynnes), Jack Wilkinson-Dix (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni), Nigel Winnan (West & Wales Utilities), Lucien Wise (Senedd)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Ffocws:

 

Yn ystod y cyfarfod hwn, canolbwyntiodd y Grŵp ar aelwydydd ledled Cymru sy’n parhau i wynebu prisiau ynni cynyddol. Yn ddiweddar, cadarnhaodd Ofgem y byddai cynnydd o 54 y cant yng nghost y cap ar brisiau ynni o 1 Ebrill 2022 ymlaen.

 

Yn sgil pryderon y byddai’r canlyniadau i aelwydydd incwm isel sy’n agored i niwed yn hynod ddinistriol, gwnaeth Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac uwch gynrychiolwyr o sefydliad Ofgem, ymuno â'r cyfarfod er mwyn gwneud cyflwyniadau a chymryd cwestiynau.

 

Cafwyd sylwadau agoriadol gan Adam Scorer, Prif Weithredwr NEA (a’r Ysgrifennydd Dros Dro yn absenoldeb Ben Saltmarsh oherwydd salwch), a amlinellodd y cynnydd aruthrol a welwyd yn y galw am wasanaethau cynghori NEA mewn ymateb i’r cynnydd mewn prisiau. Soniodd hefyd am gynllun ad-daliadau annigonol Llywodraeth y DU, a’r ffaith nad yw’n mynd i’r afael â graddfa’r argyfwng.

 

Cymerodd Leonardo Costa (Pennaeth y Polisi ynghylch y Cap ar Brisiau) a Frank Hemmes (Pennaeth Cydymffurfiaeth) o sefydliad Ofgem gwestiynau gan y Grŵp ynghylch y cap ar brisiau a materion perthnasol.

 

Yn ystod y cyflwyniad gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

·         cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan gynnwys:

o   sylwadau ynghylch yr argyfwng ac ynghylch yr Uwchgynhadledd Costau Byw a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, pan glywodd y Gweinidog gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys yr NEA

o   gwybodaeth am y pecyn o fesurau estynedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru  at ddibenion cefnogi’r rhai mewn angen

o   cydnabyddiaeth o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i’r Rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol y Rhaglen honno

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

 

Cyfarfod 3

 

Dyddiad y cyfarfod:        11 Gorffennaf 2022 (ar-lein, drwy gyfrwng Zoom)

Yn bresennol:                 

 

Mark Isherwood AS(Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol), Ben Saltmarsh (NEA), Hayden Banks (NEA), Mike Potter (NEA), Jane Hutt AS (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol), Ben Gascoyne (GIG Cymru), Claire Durkin (Ymddiriedolwr NEA), Crispin Jones (Gwerin Management), David Cowdrey (Sefydliad Elusennol MCS), Deian Timms (Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru), Faye Patton (Gofal a Thrwsio Cymru), Ffion Haf (Plaid Cymru), Francesca Kirtley-Paine (Liquid Gas UK), Gavin Dick (y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol – NRLA), George Jones (Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Ioan Bellin (ar ran Rhys ab Owen AS), Jack Wilkinson-Dix (EST), Jo Harry (Gofal a Thrwsio Cymru), Jo Seymour (Cymru Gynnes), Jonathan Cosson (Cymru Gynnes), Jocelle Lovell (Cwmpas), Josh Lovell (NRLA), Kate Calladene (E.ON Energy), Ken Cronin (Senedd), Lee Phillips (MaPS), Liz Lambert (Cyngor Caerdydd), Matthew Cole (y Sefydliad Banc Tanwydd), Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd), Neville Rookes (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Richard Hauxwell-Baldwin (Sefydliad Elusennol MCS), Simon Lannon (Prifysgol Caerdydd), Steffan Evans (Sefydliad Bevan), Stephen Chamberlain (Llywodraeth Cymru), Tash Wynne (Marie Curie), William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Ffocws:

 

Mae amcangyfrifon newydd sydd wedi’u modelu gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith y gallai hyd at 45 y cant o aelwydydd Cymru bellach fod mewn tlodi tanwydd, ac mae costau ynni cynyddol yn parhau i gael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is. Yn sgil hynny, canolbwyntiodd y Grŵp yn y cyfarfod hwn ar gamau gweithredu parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf, gan gynnwys cymunedau gwledig nad oes ganddynt fynediad at y prif gyflenwad nwy yng Nghymru.

 

Rhoddodd Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru, National Energy Action, gyflwyniad ar y materion a ganlyn:

·         y datblygiadau diweddaraf o ran yr argyfwng ynni, gan gynnwys rhybudd ynghylch y ffaith y disgwylir i brisiau ynni gynyddu’n sylweddol eto ym mis Hydref 2022

·         y cyhoeddiadau a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ac Ofgem

·         pryderon NEA a’r galwadau parhaus ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth sy'n gymesur â'r argyfwng, a'r angen i Ofgem ddiogelu defnyddwyr incwm isel a defnyddwyr sy’n agored i niwed yn ystod y gaeaf hwn a thu hwnt

Yn ystod y cyflwyniad gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

·         cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan gynnwys:

o   y sylwadau a wnaed ar y cyd yn ddiweddar i Lywodraeth y DU ac Ofgem

o   manylion y gwaith ymgysylltu a wneir â rhanddeiliaid ynghylch y camau eraill y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi aelwydydd mewn angen

o   manylion y datblygiadau sy’n gysylltiedig â Chynllun Cymorth Tanwydd Cymru a’r Cynllun Talebau Tanwydd cenedlaethol

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

Yn y cyflwyniad a gafwyd gan Matthew Cole, Pennaeth y Sefydliad Banc Tanwydd:

·         cafwyd gwybodaeth am Gynllun Talebau Tanwydd cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru, sydd â gwerth o £4 miliwn ac sy’n helpu aelwydydd mewn argyfwng ledled Cymru sydd angen talu ymlaen llaw am eu hynni, gan gynnwys sut i recriwtio partneriaid a chymryd rhan yn y cynllun

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

Yn y cyflwyniad a gafwyd gan Ken Cronin, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Dosbarthu Tanwydd y DU ac Iwerddon (UKIFDA):

·         cafwyd gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â chostau cynyddol olew, rhai o’r heriau sy’n wynebu dosbarthwyr ac aelwydydd ar hyn o bryd, a’r cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid incwm isel sy’n agored i niwed

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

 

Cyfarfod 4

 

Dyddiad y cyfarfod:        28 Tachwedd 2022 (ar-lein, drwy gyfrwng Zoom)

Yn bresennol:                 

Mark Isherwood MS(Cadeirydd), Sioned Williams AS, Rhys Taylor (ar ran Jane Dodds AS), Ioan Bellin (ar ran Rhys ab Owen AS), Billy Jones (ar ran Luke Fletcher AS), Cathy Bevan (ar ran Huw Irranca-Davies AS), Ben Saltmarsh (NEA), Hayden Banks (NEA), Mike Potter (NEA), Jane Hutt AS (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol), Claire Durkin (Ymddiriedolwr NEA), Cara Holmes (Cyngor ar Bopeth Cymru), Rose Forman (Propertymark), Becky Ricketts (Gofal a Thrwsio Cymru), Sandy Hore-Ruthven (Asiantaeth Ynni Severn Wye), Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd), Y Parchedicaf Andy John (Archesgob Cymru), Crispin Jones (Gwerin Management), James Calder (Liquid Gas UK), William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion), Steven Reynolds (Cyd Innovation), Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear Cymru), David Cowdrey (Sefydliad Elusennol MCS), Danny Grehan (Senedd), Martin Campbell (Ofgem), Simon Lannon (Prifysgol Caerdydd), Lee Phillips (y Gwasanaeth Arian a Phensiynau), Joshua Lovell (NRLA), Ryland Doyle (Senedd), Bethan Sayed (Climate Cymru), Faye Patton (Gofal a Thrwsio Cymru), Kate Lowther (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion), Gavin Dick (NRLA), Nigel Winnan (WWU), Elaine Robinson (Prifysgol Caerdydd), Jonathan Cosson (Cymru Gynnes), Liz Lambert (Cyngor Caerdydd), Joseph Carter (Asthma + Ysgyfaint UK), Joanna Seymour (Cymru Gynnes), James Adamson (GIG Cymru), Rebecca Brown (Ofgem), Jack Wilkinson-Dix (EST), Maureen Howell (Llywodraeth Cymru), Nina Ley (Llywodraeth Cymru), Catrin Stephenson (Llywodraeth Cymru), Gareth Phillips (Llywodraeth Cymru), Louisa Petchey (GIG Cymru), Claire Pearce-Crawford (Cartrefi Melin)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Ffocws:

 

Gyda chostau ynni yn parhau i godi, a phobl ar draws y wlad yn wynebu mwy o galedi, mae sicrhau bod aelwydydd ledled Cymru yn cael eu gwarchod ac yn cael cymorth digonol yn bwysicach nag erioed. Yn sgil gweithgarwch pellach gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i ganolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd a’r camau eraill y mae angen eu cymryd i helpu a diogelu’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn gyfle i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, yn dilyn cyfarfod cyntaf y Grŵp yn ystod tymor y Senedd hon ym mis Tachwedd 2021. Cafodd Mark Isherwood AS ei ailethol yn ddiwrthwynebiad fel Cadeirydd y Grŵp. Cafodd Ben Saltmarsh ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Ysgrifennydd y Grŵp.

 

Rhoddodd Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru, National Energy Action, gyflwyniad ar y materion a ganlyn:

·         Gwarant Pris Ynni Llywodraeth y DU

·         crynodeb o'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

·         pryderon NEA ar hyn o bryd, a’r galwadau ar Lywodraeth y DU, Ofgem a Llywodraeth Cymru

·         digwyddiadau sydd yn yr arfaeth, gan gynnwys Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd NEA

Yn ystod y cyflwyniad gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

·         cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan gynnwys:

o   y sylwadau a wnaed ar y cyd yn ddiweddar i Lywodraeth y DU ac Ofgem

o   ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar Gynllun Cymorth Tanwydd Cymru ar ei ffurf bresennol

o   y ffocws ar wella effeithlonrwydd ynni

o   y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda chyflenwyr ynni, yn sgil pryderon bod mwy o bobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

Yn y cyflwyniad a wnaed gan Bethan Sayed, Cydlynydd Ymgyrchu, Climate Cymru:

·         cafwyd gwybodaeth am yr ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma a’r galwadau allweddol ar Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU), gan gynnwys galwadau am gymorth brys, ynni fforddiadwy, a rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt waethaf.

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

Yn y cyflwyniad a gafwyd gan Cara Holmes, Uwch Ymchwilydd Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru:

·         cafwyd gwybodaeth am adroddiad gan Gyngor ar Bopeth Cymru sydd yn yr arfaeth, sef Grinding to a halt? Mae’r adroddiad yn sôn am ddileu’r rhwystrau i wella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio tai preifat yng Nghymru.

·         cafwyd cwestiynau gan y Grŵp

 

 

 


 

3. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol

 

Fel y’u manylir uchod.


 

 


Datganiad Ariannol Blynyddol

Dyddiad: 5 Rhagfyr 2022

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni

Cadeirydd:Mark Isherwood AS

Ysgrifenyddiaeth:

Ben Saltmarsh (NEA Cymru)

 

Treuliau’r Grŵp

 

Dim

£0.00

Costau’r holl nwyddau

 

Ni phrynwyd nwyddau

£0.00

Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol

 

Ni chafwyd unrhyw fuddiannau

£0.00

Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall

 

Ni chafwyd cymorth ariannol Darparwyd ysgrifenyddiaeth gan NEA Cymru

£0.00

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch

 

Amh. Cynhaliwyd y ddau gyfarfod ar-lein, drwy gyfrwng Zoom.

 

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr a’i enw

 

Cost

 

 

£0.00

Cyfanswm y gost

 

£0.00